Gwasanaethau
Fel Practis Siartredig RIBA rydym yn cynnig gwasanaeth proffesiynnol a phersonol iʼn holl gleientau ac yn hapus i ymroddi i weithio ar brosiectau oʼr dechrau iʼr diwedd.
Cynigir y gwasanaethau canlynol:
adroddiadau posibilrwydd
cynllunio adeiladau oʼr newydd
ymestyn, addasu ac adfer adeiladau presennol
cadwraeth adeiladu a gweithio gyda adeiladau rhestredig
ceisiadau cynllunio
paratoi cynlluniau technegol ar gyfer adeiladu
gweinyddu cytundebau adeiladu
Maeʼr gwasanaeth wedi ei rannuʼn dri:
Rhan Gwaith A i D
Paratoi brîff, arolwg mesuriedig, braslunio cysyniad a pharatoi cynlluniau cychwynol. Cwblhau dyluniad terfynol a chyflwyno cais am ganiatad cynllunio.
Rhan Gwaith E a F
Datblyguʼr dyluniad a pharatoi cynlluniau manwl a thechnegol. Cyflwyno cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu.
Rhan Gwaith G i L
Cyfnod adeiladu – paratoi rhestrau gwaith a disgrifiadau manwl, gwahodd tendrau a pharatoi cytundeb adeiladu. Gweinydduʼr cytundeb tan ddiwedd y gwaith.
Mae croeso i chi gysylltu i drafod eich prosiect – maeʼr cyfarfod cychwynol am ddim.